This church is currently starting to look flourishing. We believe that God is visiting his people in this church. We have been holding prayer meetings every night for three weeks. On the first Sunday of the year 1905, we had the pleasure of seeing the Rev.J.Griffiths, Bodedern, baptise12 people on profession of their faith in the Son of God, and 2were received from the country of backsliding, adding 14 to the church's number. On Sunday morning, January 15th, we had an excellent sermon from the Rev. W. Hughes, Llaneilian, on the text, "that now it is high time to awake out of sleep." There was a prayer meeting at five in the evening and it was soon felt that the divine fire was in our midst. As our brother was not able preach in the evening, the brothers and the sisters were filled with the Holy Spirit, and we were glad to see brothers and sisters taking part in public for the first time ever. Three stayed in the fellowship, and from then until Tuesday night making a total of 12. Thanks be to Him.
27th January 1905, Seren Cymru newspaper.
Mae yr eglwys hon yn dechreu gwisgo agwedd lewyrchus ar hyn o bryd. Yr ydym yn credu fod Duw yn ymweled a'i bobl yn yr eglwys hon. Yr ydym yn cynnal cyfarfodydd gweddi bob nos er's tair wythnos. Sul cyntaf o'r flwyddyn 1905, cawsom hyfrydwch o weled y Parch J. Griffiths, Bodedern, yn bedyddio 12 ar broffes o'u ffydd yn Mab Duw, a derbyniwyd 2 o dir gwrthgiliad, yn ychwanegiad at rhif yr eglwys o 14 Boreu Sul, Ionawr 15fed, cawsom bregeth rhagorol gan y Parch W. Hughes, Llaneilian, ar y geiriau hyny, "Ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gysgu." Cafwyd cwrdd gweddi am bump yn yr hwyr, a buan y teimlwyd fod y tan Dwyfol yn ein plith. Fel na chafodd ein brawd bregethu yn yr hwyr, yr oedd y brodyr a'r chwiorydd wedi ei lIanw o'r Ysbryd Glân, a da oedd genym weled brodyr a chwiorydd yn cymmeryd rhan yn gyhoeddus am y waith gyntaf erioed. Arosodd tri yn y gyfeillach, ac o hyny hyd nos Fawrth yn gwneyd cyfanswm o 12. Diolch Iddo.
27th January 1905, Seren Cymru.