We have been very busy here since Christmas. Prayer Meetings are held every night until very late. The meetings are wonderful ones. We will remember them as long as we live, especially the meetings we, the women, hold every afternoon. These have been held in the two chapels alternately for about two months. We are having excellent meetings there, with everyone of a like mind. As many as twelve sisters participate in some of the meetings. And it is an easy time to do that. I never knew before that I had a talent or ability to pray in public. There are powerful meetings here every night too. One brother rose to his feet on Sunday night, and told them to do everything at ‘double quick march", to make up for the ‘dragging [of feet]’ there has been here over the years. Yes, the dew is descending upon us in these weeks.
Y Cymro - 16th February 1905.
Yr ydym yn brysur iawn yma er y Nadolig,-Cyfarfodydd Gweddio bob nos nes b'o hi'n hwyr fawr. Mae y cyfarfodydd yn rhai bendigedig. Cofiwn am danynt tra byddwn byw, yn enwedig y cyfarfodydd sydd genym ni, fel merched, bob prydnawn. Cynelid y rhai hyn yn y ddau gapel bob yn ail er's tua dau fis. Yr ydym yn cael cyfarfodydd ardderchog yno pawb yn un ynddynt. Cymer cynifer a deuddeg o chwiorydd ran mewn ambell gyfarfod. Ac yn adeg hawdd i wneud hyny. Ddaru mi erioed wybod o'r blaen fod gen i ddawn na gallu i weddio yn gyhoeddus. Ceir cyfarfodydd grymus yma bob nos hefyd. Cododd un brawd ar ei draed nos Sabboth, a dywedodd wrthynt am roddi 'double quick march' ar bob peth, i wneud i fynu am y 'llusgo' sydd wedi bod yma ar hyd y blynyddoedd. Ydyw, y mae'r gwlith yn disgyn arnom yr wythnosau hyn.
Y Cymro - 16th February 1905.