Hebron Welsh Baptist Chapel - Pencader (1905)



The silver trumpet of the current Revival has awoken this church, as it sheds it night clothes of idleness, and puts on the robes of its glory according to the Lord’s wish. The people are starting to get a higher and better idea of life, and starting to realise the life that is not of this world. They see that the principle of self-denial and self-sacrifice that is so clear in our dear Saviour is the principle that is going to elevate our world. A number of people now know through experience what is the pass of conviction and the valley of repentance. They love Jesus Christ, his Word, his Cross the more. The rose of Sharon and the lily of the valley smell sweetly and wholesomely in their lives; the old things passed away, behold,  new things have come. The Holy Spirit in its sanctifying influences is cleansing and washing the church of its filth and corruption. Not only are the brothers bearing witness against alcohol, but also against tobacco, and some desire to know their sins, so that they can attack and conquer them in the name of the Lord.  The sanctuary has an attraction, the worship is fervent, God crowns the congregations with his lovely presence, and we crown Him with our praise and worship. Because the church has been adding to its virtues, God has been adding to its numbers, so that we have admitted fourteen people into the church during the last four months, and there are others still awaiting the same privilege.

7th April 1905, Seren Cymru

Additional Information

Mae udgorn arian y Diwygiad presenol wedi deffro yr eglwys hon, fel y mae yn diosg oddiam dani ei dillad nos segurdod, ac yn gwisgo gwisgoedd ei gogoniant yn ol dymuniad yr Arglwydd. Mae'r bobl yn dechreu cael syniad uwch a gwell am fywyd. a dechreuant sylweddoli y bywyd nad yw o'r byd hwn. Gwelant mai'r egwyddor ymwadol a hunan aberthol sydd mor amlwg yn ein Gwaredwr mwyn yw yr egwyddor sydd yn mynd i ddyrchafu ein byd. Gwyr amryw o'r bobl trwy brofiad erbyn liyn beth yw bwlch yr argyhoeddiad a dyffryn edifeirwch. Mae Iesu Grist, ei Air, a'i Groes yn anwylach ganddynt. Mae rhosyn Saron a lili r dyffrynoedd yn perarogli'n iachus yn eu bywydau yr hen bethau a aethant heibio, wele gwnaethpwyd pob peth yn newydd. Mae'r Yspryd Glan yn ei ddylanwadau santeiddiol yn carthu ac yn golchi yr egIwys o'i budreddi a'i llygredd. Nid yn unig y mae'r brodyr yn ardystio yn erbyn y ddiod feddwol, ond hefyd yn erbyn y myglys, ac ymawydda rhai am wybod eu pechodau, fel y gallont ymosod arnynt yn enw yr Arglwydd a'u concro, Mae'r cyssegr yn atdyniadol, yr addoliad yn wresog, Duw yn coroni y cynnulliadau a'l hyfryd bresendeb, a ninnau yn ei goroni. Ef a'n mawl a'n haddoliad. Am fod yr eglwys wedf bod yn ychwanegu at ei rhinweddau, mae Duw wedi bod yn ychwanegu at ei rhif, fel yr ydym wedi derbyn i fewn i'r eglwys yn ystod y pedwar mis diweddaf bed war ar ddeg, ac y mae ereill etto yn aros yr un fraint.

7th April 1905, Seren Cymru

 


Related Wells