The meetings have been going on since the beginning of November until now, but on Monday, Jan 23rd, the influences, the divine powers were felt mightily here, mainly among the young people. Thursday night was also a night to remember, a prayer meeting by the young people: and O, the wonderful feeling was a wonderful feeling to be experienced. As many as eleven of the young people came forward to take part. Friday evening once again, and this time the great tide came in. One of the officers started the meeting, which was then left free, without anyone uttering a word. A young woman read a few verses in the Book of Acts about the Holy Spirit on the day of Pentecost, and began to pray. A number of young sisters and brothers came forward under intense feelings. Oh, what a wonderful meeting – in the gift given to them by the Holy Spirit. The tide rose high, the Amens were warm, and the Thanksgiving loud. It was ten past 10 when this wonderful prayer meeting came to an end. The effects of these meetings long remain on those who were present.
Goleuad - 26th January 1905.
Caed cyfarfodydd o ddechreu Tachwedd hyd yn awr ond nos Lun, Ion. 23, yr oedd y dylanwadau, y pwerau dwyfol yn cael eu teimlo yn nerthol yma ymysg y bobl ieuainc yn benaf. Nos Iau hefyd ydoedd noson i'w chofio, cyfarfod gweddi gan y bobl ieuainc: ac O, 'r teimladau bendigedig oedd yw teimlo. Daeth cymaint ag unarddeg ymlaen i gymeryd rhan o'r bobl ieuainc. Nos Wener drachefn, a dyma'r noson y daeth y llanw mawr i fewn. Dechreuwyd gan un o'r swyddogion, yna gadawyd y cyfarfod yn rhydd, heb neb yngan gair. Darllenodd merch ieuainc ychydig adnodau yn Llyfr yr Actau am yr Ysbryd Glan ar ddydd y Pentecost, ac aeth i weddi. Daeth nifer o chwiorydd a brodyr ieuainc ymlaen dan deimladau dwysion. O, gyfarfod bendigedig—yn y ddawn a roed iddynt gan yr Ysbryd Glan. Daeth y llanw yn uchel, yr Amenau yn gynes, a'r Diolch yn uchel. Deg mynd wedi deg o'r gloch y terfynodd y cyfarfod gweddi rhyfedd hwn. Erys effeithiau y cyfarfodydd hyn yn hir ar y rhai oedd yn bresenol.
Goleuad - 26th January 1905.