Capel Ifan - Llanerchymedd (1905)




Additional Information

Yr ydym yn parhau i gael cyfarfodydd gwresog iawn. Cynhelir tri o  gyrddau undebol yn y gwahanol gapelau bob wythnos, a chyrddau y bobl ieuainc bob nos hyd ddeg o'r gloch, ac weithiau yn hwyrach. Cawsom gyfarfodydd hynod y gwyliau diweddaf. Yr oedd yma dri chyfarfod gweddi ar y Groglith, a thri ddydd Llun y Pasg sef yn nghapel y Bedyddwyr y bore, a chyfarfod eglwysig llawn o eneiniad yn nghapel y Methodistiaid y prydnawn. Ac yn yr hwyr llanwyd capel yr Annibynwyr. Ond y cyfarfodydd rhyfeddaf a gaed yma eto oedd air ddydd Ffair Farc. Hon yw ffair fawr y flwyddyn. Cedwir ni fel gwyl, gan holl weision amaethwyr y cylchoedd. Yn y blynyddoedd gynt nodweddid y dydd gan feddwdod ac ymladdfeydd. Ond y tro hwn yr oedd gwedd newydd ar pob peth. Er i'r gweision a'r morwynion ddod yma yn lluoedd, yr oedd yn hawdd gweled ar eu gwedd fod eu cymeriad wedi mynd dan gyfnewidiad hollol. Yn lle myned i'r tafarnau  a gwag a rodiana ar yr heol, ffurfio cyfarfod gweddi a wnaed a llenwi y New Hall, yr hon a gynal dras 500 o bobl. Yno y buwyd yn canu ac yn gweddio trwy y prydnawn mewn gwres mawr. Wedi eu gollwng i gael ymborth dychwelasant i ffurfio gorymdaith i fyned trwy heolydd y dref. Hon oedd yr orymdaith liosocaf welwyd yma erioed yn cael ei gwneyd i fyny gan ganoedd o'r ddau ryw. Aed trwy rai o'r heolydd ddwywaith, a hyny dan ganu tonau y Diwygiad, nes diaspedain trwy yr holl fro. Yr oedd yr olygfa yn dra bendigedig. Yr oedd pedwar o heddgeidwaid wedi eu hanfon i ofalu am heddweh y ffair, dydd gwyl oedd hwn iddynt hwythau. Nid oedd ganddynt ddim i'w wneyd ond gofalu fod yr orymdaith yn cael digon o le i fyned drwy'r heolydd. Nid anghofiaf byth yr olygfa a'r wedd siriol oedd ar bawb. Wedi gorymdeithio aed i  Gapel Mawr y Methodistiaid i gynal Cyfarfod gweddi, a llanwyd yr adeilad yn fuan. Er i ni gael cyfarfodydd tra rhyfedd yn ystod y pum' mis diweddaf, tystia pawb mai hewn oedd y rhyfeddaf o'r cwbl. Ar ol dechreu yn fyr trwy ac ni ganu a darllen, taflwyd y cyfarfod yn rhydd, ac ni fu ball arno am dair awr, Yr oedd yn werth dodd o bell i wrando ar y meibion a'r merched yn datgan eu profiadau mewn diolchgarwch am y cyfnewidiad oedd ynddynt. Diolchai amryw o honynt am Ffair Fach y flwyddyn hon, lle yr oeddynt yn cael addoli Duw yn lle eistedd i bechu yn y tafarnau. Yr oedd gweddiau rhai o honynt yn ardderchog mewn gwirionedd. Gwresog ai y cyfarfod wrth fyned ymlaen. Llanwyd y set fawr gan feibion a merched yn gweddio ar unwaith. Yn fuan aeth yn orfoledd mawr, ac yr oedd lluoedd yn foddfa o ddagrau. Erbyn naw o'r gloch yr oedd yno ddyfroedd nofiadwy. Diau nad anghofir y dylanwadau byth. Yr ydym yn diolch i Dduw am ddydd y Ffair Fach y flwyddyn hon. Ar y diwedd anogwyd i ffurfio gorymdaith, a myned trwy y dref drachefn. A hyn y cytunodd pawb. Wedi gorymdeithio ffurfiwyd cyfarfod gweddi ar y Square lle y buwyd yn canu ac yn gweddio nes yr oedd rhwng deg ac unarddeg o'r gloch. Wedi hyny aeth teulu y wlad adref i'w gwahanol ardaloedd dan ganu a gogoneddu Duw. Ein gweddi ydyw, "Aros gyda ni Fendigedig Arglwydd."

Goleuad - 12th May 1905.

http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3224725


Related Wells