Peniel Calvinistic Methodist Church - Llanelltyd (1905)




Is the Revival progressing here? That is a question frequently asked along the coast of Meirionnydd from Penrhyndeudraeth to Aberdyfi, including the Mawddach valley up to Dolgellau. Answers vary. Start with Dolgellau, and the first thing you hear is that people are complaining because such powerful things are not being felt there as are being seen elsewhere. Yet the policemen and the doctors say that the aspect of the town has changed. Drinking and drunkenness are much reduced, and the lives of many families are immeasurably happier than they have seen before. So far as I have heard, the number won over to religion remains about one or two. Prayer meetings are held daily. In Dolgellau there is one remarkable fact, - it is said that one church - not a Methodist church - has not been touched by the Revival at all, and it is further said that neither the minister nor the officers there feel the desire for it. I mention this, not to blame or to criticise, but as a fact upon which it will be interesting to look back in the future. As regards the other churches, there is an intense and general desire to feel more of the influences, and in the Established Church too, prayer meetings and a revival service are held every evening. In Arthog and Llanelltyd and Bontddu on the other side of the valley, the Revival has broken out more powerfully. In fact, I do not think it is anywhere felt more powerfully than in Llanelltyd and Bontddu. Mrs Jones, Dyffryn, was in Arthog and Bontddu this week and that gave a stimulus this week to the good work. In Barmouth, the waves are growing more powerful. In Llwyngwril Mrs Jones, Dyffryn had a notable meeting. Indeed, this was as might have been expected, since the fire here has been burning red-hot for several weeks,  and everything was favourable for the visit.

Goleuad - 17th February 1905.

http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3224534

 

At Arthog on one hand and Llanelltyd and Bontddu on the other, the revival is more powerful. These places were visited last week by Mrs Jones, Dyffryn, who has given fresh impetus to the movement.

From, 'The Wrexham Advertiser', 25th February 1905.

Additional Information

 

A yw y Diwygiad yn myned rhagddo acw? Dyna gwestiwn a ofynir yn fynych ar hyd lanau Meirion o Pendrhyndeudraeth i Aberdyfi, gan gymeryd i mewn ddyffryn y Fawddach i fyny i Ddolgellau. Mae'r atebion yn amrywio. Dechreuwch gyda Dolgellau, a'r peth cyntaf a glywir yw fod pobl yn cwyno am nar theimlir yno bethau mor nerthol ag a welir mewn lleoedd eraill. Eto fe ddywed yr heddgeidwaid a'r meddygon fod gwedd y dref wedi newid. Mae yfed a'r meddwi yn llai o lawer, a bywyd llawer o'r teuluoedd yn anhraethol ddedwyddach nag y gwelsant ef erioed. Hyd y clywais y mae y rhai enillwyd at grefydd yn dal oddigerth un neu ddau. Cynhelir cyfarfodydd gweddi yn ddyddiol. Yn Nolgellau y mae un ffaith hynod,—dywedir fod un eglwys,—nid gyda'r Methodistiaid,—nad yw y Diwygiad wedi ei chyffwrdd o gwbl, a dywedir yn mhellach na theimlir yno gan y gweinidog na'r swyddogaeth, awydd am dano. Crybwyllaf y peth, nid i feio nac i feirniadu, ond fel ffaith ag y bydd yn ddyddorol edrych yn ol ati eto. Am yr eglwysi eraill mae dymuniad dwys a chyffredinol am deimlo rhagor o'r dylanwadau, ac yn yr Eglwys Sefydledig hefyd, cynhelir cyfarfodydd gweddi a gwasanaeth diwygiadol bob nos. Yn Arthog a Llanelltyd a'r Bontddu ar y tu arall i'r dyffryn, mae'r Diwygiad wedi tori allan yn fwy grymus. Yn wir nid wyf yn credu y ceir dim yn fwy nerthol yn unman nag a deimlir yn Llanelltyd a'r Bontddu. Bu Mrs. Jones, Dyffryn, yn Arthog a Bontddu yr wythnos hon, a rhoddodd hyny symbyliad i'r gwaith da. Yn yr Abermaw, mae y tonau yn cryfhau. Yn Llwyngwril cafodd Mrs. Jones, Dyffryn, gyfarfod nodedig. Yn wir, felly y gallesid disgwyl, gan fod y tan yma yn llosgi yn eirias er's rhai wythnosau, a phob peth yn ffafriol i'r ymweliad.

Goleuad - 17th February 1905.

http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3224534

 


Related Wells