Seion Wesleyan Methodist Chapel - Llanrhaeadr-Ym-Mochnant (1904)




I think that readers of the GOLEUAD will be pleased to know that the wave of the Revival has reached these areas. We had here a most pleasant meeting of the Association in every sense, I think it made a profound impression throughout, and did much to prepare the ground. But the last three weeks have been wondrous ones. Prayer meetings were held here in all the chapels; almost every evening. On the first Sunday of the month a united, missionary prayer meeting was held, but it was very cold, and the attendance disappointed some of us. In the end, the secretary called attention to this, and to what was felt so passionately in some places, and stated his desire to receive the same influences, and also his concern that the report might pass by without being received in rural areas. Feeling this, he invited brothers and sisters who felt the same to join him for a prayer meeting in the MC room at 2.30 the following Wednesday afternoon, and to our joy a good congregation assembled, and they have been retained every afternoon since then, and have increased in strength and intensity every day and the one last Saturday was for some of us the most wonderful meeting in our lives, since the influence was so overwhelming. There are meetings in each chapel separately until the Friday evening, when there was a united meeting. It was arranged to go in procession through the streets; but as it was very wet and unpleasant weather, some questioned the wisdom of this. But when the congregation was asked for their opinion and feeling, they rose en masse and the procession, 300 to 400 strong, went out, singing. It returned to the (MC) chapel, and was there till almost ten. After that, the young people insisted on a meeting, and there was an excellent one until midnight. There was a wonderful Sabbath here and the Sunday School was cancelled and we united in a prayer meeting, which was a remarkable one. There were prayer meetings before and after every service in each chapel. In the chapels, at prayer, is where people want to be!

Goleuad 30th December 1904

http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3224418/ART20

The words uppermost in our minds these days are, 'The Lord hath done great things for us; whereof we are glad.' By today we too have experience of a wonderful and powerful Revival, which amazes us in its simplicity and yet its wonderful and indescribable effects. Our verse until today has been, 'We have heard with our ears, O God, our fathers have told us, what work thou didst in their days, in the times of old'. [Psalm 44] But today the Lord is pouring out on us 'the Spirit of grace and of supplications.' [Zechariah 12:10] We prayed for two weeks before its coming - united prayer meetings in the afternoon at half past two, and each of us at his own meeting place in the evening. And at those meetings we received signs that the Lord was about to appear. Some were seen breaking out for the first time, others who had slackened their efforts were in tears, begging for forgiveness before the throne of grace. The young people were tested and a great number raised their hands as a sign of their longing to be saved. We felt a spiritual stream filling the place, and we saw on every face a sign that God was at work on their hearts. On the Friday evening of the second week, the different denominations came together, and that evening we saw very wonderful things. We saw sinners from the world and the church in a struggle with God, groaning, and weeping floods of tears at the throne, in front of the large crowd, others at the foot of the seat here and there in the chapel experiencing the same pangs. And what is amazing is that each person took it in turn, despite their anguish of soul, and before one group of men had finished in the elders' seat, there would be another one ready to take their place, and this went on for hours and nights on end, and the majority of them were people who had never been heard to utter a word in public. Oh, the scene. Oh, the prayers, the pitiful entreaties for mercy, soul and body in a dreadful struggle for mercy. We almost felt that the day of judgement had come, and that the searchlights of the Holy Spirit in their full and Divine splendour had been turned on the souls of sinners. One of the most vivid and striking things was hearing one of the young men from the 1904 revival and one of the old men from the 1859 revival praying together at the throne of grace. 'Will you forgive me Lord, when I am so great a sinner? Will you, Lord?' said the boy. 'For God so loved the world,’ with an emphasis on the 'world' said the old man in tears, and then he said 'so that whosoever believeth in Him should not perish,' repeating 'Whosoever believeth in Him' over and over again. 'But, said the boy, 'my sins are so great.' ‘Yes,' said the old man, 'It is the Blood of Jesus Christ, His Son, which cleanses us from all sin', and so on for a while until there was rejoicing amongst the congregation. Yes, the Lord has done great and wonderful things, whose like has not been seen since '59. The sound of song and praise fills the atmosphere of the district; the young woman at work sings 'Blood of the cross'[hymn], the young men at the plough sing 'Thanks, Eternal thanks be to him, For remembering the dust of the earth.'[hymn] Old country barns have been turned into places of meeting with God and prayers are consecrating the country's woods, the taverns are empty, and places of worship are full, the clock has been forgotten, and warmth of the presence of the Holy Spirit makes the House of the Lord more attractive than a warm, cosy hearth in the country on cold winter nights. The formal precentor has gone. There is no leader in the chair in the elders' seat, that is empty, a sign that the Holy Spirit is guiding the hearts of the people. The long, cold prayers, full of worldly trifles have gone, and there are new ones in their place, full of the message and the one great need, for God to continue the presence of His Spirit with us and fill us with the Holy Spirit. Old enemies are reconciled in tears; we have never been so close to the ideal of the sermon on the mount. Some of our young men's testimonies are so animated, so natural and simple that we will never forget them. Our annual Christmas meeting was held on the Monday following the day itself. And in the midst of such influences it could be expected to be a remarkable one, and it was, 'out of the old order.' Between the singing, the praying and the thanksgiving, twenty-one people stayed behind for the first time. The chapel was full and the unction awe-inspiring; the congregation was like clay, capable of being moulded to any form of glory under the influence of the powerful ministry. A total of more than sixty people stayed and, once fired, have carried the fire to other parishes. The dear old Church here is full these days of the presence of the Lord. We have had great things already, but we expect and believe that greater things yet are at hand.

'Y Gwyliedydd' (Rhyl) 7th January 1905.

The revival has been the chief event in this neighbourhood for nearly a month, and the great change for good that has come over the churches, especially the young people, is remarkable. Three meetings are still held daily, with great success.

From, 'The Cardigan County Times', 7th January 1905.

 

Additional Information

Tybiaf mai da gan ddarllenwyr y GALEUAD ddeall fod ton y Diwygiad wedi cyraedd yr ardaloedd hyn. Fe gaed yma Gymdeithasfa o'r fwyaf dymunol ymhob ystyr, credaf grace. argraff ddwys Spirit. ei wneyd drwyddi, a gwnaeth ran fawr mewn arloesi y tir. Ond y mae y tair wythnos ddiweddaf wedi bod yn rhai rhyfedd. Cynhelid yma gyfarfod gweddiau yn yr oll o'r capelau; bron bob nos. Y Sul cyntaf o'r mis cynhelid cyfarfod gweddi undebol, cenhadol, ond oer iawn ydoedd, a'r cynulliad yn siomedig i rai o honom. Ar ei ddiwedd, galwodd yr ysgrifenydd syhw at y peth, ac at yr hyn deimlid mor angerddol mewn rhai manau, a datganai ei awydd am gael yr un dylanwadau, ac hefyd ei bryder rhag ofn i'r son fyned hebio heb i ranau gwledig ei chael. Yn y teimlad hwnw gwahoddodd frodyr a chwiorydd deimlai fel yntau ei gyfarfod mewn cyfarfod gweddi yn ystafell M.C. am 2.30 prydnawn Mercher dilynol, ac er ein llawenydd daeth cynulleidfa dda ynghyd, ac y maent wedi cael eu cadw bob prydnawn er hyny, ac yn ychwanegu mewn nerth a dwysder bob dydd ac yr oedd un y Sadwrn diweddaf i rai o honom yn gyfarfod rhyfeddaf ein hoes, gan mor llethol yr oedd y dylanwad. Yr oedd cyfarfodydd ymhob capel ar wahan hyd nos Wener, pryd y caed un undebol. Yr oeddis wedi trefnu i fyned yn orymdaith drwy yr heolydd; ond gan ei bod yn hynod wlyb a budr. amheuai rhai ddoethineb hyny. Ond pan y gofynwyd barn a theimlad y gynulleidfa, codasant yn llu ar eu traed, ac aed allan dan ganu yr orymdaith gref o 300 i 400, a dychwelwyd i'r capel (M.C.), a buwyd ynddo hyd yn agos i ddeg. Mynodd y bobl ieuainc gyfarfod wedyn, a chaed un hynod hyd haner nos. Caed Sabbath rhyfedd yma, a rhoddwyd yr Ysgol Sul i fyny, ac unwyd mewn cyfarfod gweddi, a chaed cyfarfod hynod. Yr oedd cyfarfodydd gweddiau o flaen ac ar ol bob gwasanaeth ymhob capel. Yn y capelau yn gweddio y myn y bobl fod!  

Goleuad - 30th December 1904.

http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3224418/ART20

Y geiriau uchaf ar ein meddyliau yn y dyddiau hyn ydynt, 'Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hynny yr ydym yn llawen.' Erbyn heddyw mae genym ninnau brofiad o Ddiwygiad, rhy fedd a nerthol iawn, sydd yn ein syfrdanu ni o ran ei symlrwydd, ac etc ei effeithiau rhyfedd ac annisgrifiol. Ein hadnod hyd heddyw ydoedd, 'Duw, clywscm a'n clustiau, ein tadau a fynegasant i ni, y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt.' Ond. heddyw y mae'r Arglwydd yn ei dywallt arnom yn 'Yspryd gras a gweddiau.' Buwyd wrthi yn gweddio am bythefnos cyn ei ddod —cyfarfodydd gweddi undebol yn y prydnawn am hanner awr wedi dau, a phawb ohonom yn ei fan cyfarfod ei hun yn yr hwyr. A chawsom yn y rhai hynny arwyddion fod yr Arglwydd ar ymddangos. Gwelid rhai yn torri allan o'r newydd, eraill a laesasant eu dwylaw yn eu dagrau yn ymbil am faddeuant gerbron gorsedd gras. Rhoddwyd prawf ar y bobl ieuainc, a chododd Ilu eu dwylaw fel arwydd o'u dyhead aml gael eu hachub. Teimlem rhyw hylif ysprydol yn llanw y lle, a gwelem arwydd ar bob wyneb fod Duw ar waith yn eu calonau. Nos Wener, yr ail wythnos, aethom at ein gilydd fel enwadau, a'r noson honno gwelsom bethau rhyfedd iawn. Gwelem bechaduriaid y byd a'r eglwys mewn ymdrech a Duw yn gruddfan, ac yn wylo dagrau yn llif wrth yr orsedd, a hynny yn ngwydd y dyrfa fawr, eraill ar waelod y set yma ac acw yn y capel yn yr un pangfa. A'r hyn sydd yn syndod ydyw y cymerai pob un ei dro ei hun, er ei bod yn wewyr enaid arno a chyn y byddai un gyr o ddynion wedi gorphen; yn y set fawr, fe fyddai un arall yn barod i gymeryd eu lle, ac elai hyny yn mlaen am oriau a nosweithiau yn olynol, a'r rhan luosocaf ohonynt yn rhai na chlywyd hwynt yn yngan gair yn y cyhoedd. O yr olygfa. O y gweddio, yr ymbil tost am drugaredd, enaid a chorff mewn ymdrech ofnadwy am drugaredd. Bron na theimlem fod y farn fawr wedi dod, a bod searchlights yr Yspryd Glan yn eu ysplander Dwyfol a llawn wedi eu troi ar enaid pechadur. Un o'r pethau mwyaf byw a tharawgar oedd clywed un o fechgyn diwygiad '04 a un o henafgwyr diwygiad '59 gyda'u gilydd yn gweddio wrth orsedd gras. 'Wnei di faddeu i mi, Arglwydd, a minau yn bechadur mor fawr ? Wnei di, Arglwydd,' meddai y bachgen. 'Canys felly carodd Duw y byd,' gan roi pwyslais ar y 'byd' meddai yr henafgwr yn ei ddagrau, ac meddai eto 'fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo Ef,' gan ail adrodd 'Pwy bynnag a gredo ynddo Ef' drosodd a throsodd. 'Ond, meddai y bachgen, 'mae fy mhechodau i mor fawr.' 'Ie,' meddai yr henafgwr, 'Gwaed Iesu Grist, ei Fab Ef, sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod'; ac felly ymlaen am yspaid hyd nes yr oedd yn orfoledd yn y gynulleidfa. Oes, mae yma bethau mawr a rhyfedd wedi eu gwneud gan yr Arglwydd na welwyd eu cyffelyb er '59. Swn can a moliant sydd yn llanw awyrgylch y wlad; y forwyn wrth ei gwaith yn canu 'Gwaed y groes,' y llanciau rhwng dau gorn yr aradr yn canu 'Diolch iddo, Diolch iddo, Byth am gofio llwch y llawr.' Hen ysguboriau y wlad wedi eu troi yn fan cyfarfod a Duw, a'r gweddiau yn cyssegru coedwigoedd y wlad, y tafarndai yn wag, a'r addoldai yn llawn, y cloc wedi ei anghofio, a gwres presenoldeb yr Yspryd Glan yn fwy o atdyniad i Dy yr Arglwydd nac. Y codwr canu ffurfiol wedi mynd. Dim arweinydd yn eistedd yn y gadair yn y set fawr, honno yn wag, yn arwyddocaol o arweiniad yr Yspryd yn nghalon y bobl. Y gweddiau oerion, hirion, Ilawn o faneuach y byd wedi mynd, a rhai newydd yn eu lle, llawn o'r neges a'r un anghen mawr, am i Dduw barhau Ei Yspryd gyda ni, 'a'n llanw ni a'r Yspryd Glan.' Hen elynion yn ymgymodi yn eu dagrau, fuom ni erioed mor agos i ddelfryd y bregeth ar y mynydd. Mae rhai o brofiadau ein dynion ieuainc mor fyw, mor naturiol a syml fel nas anghofiwn hwynt byth. Cynhaliwyd ein cyfarfod blynyddol dydd Nadolig ar dydd Llun canlynol. Ac yn nghanol y faith ddylanwadau gellid disgwyl iddo fod yn un hynod ac felly yr oedd 'out of the old order.' Rhwng y canu, y gweddio ar diolch, anhosodd, un-ar-hugain o'r newydd. Y capel yn orlawn o'r eneiniad yn ofnadwy, y gynull dfa fel clai yn ystwyth i unrhyw ffurf o ogoniant o dan ddylanwad y weinidogaeth nerthol. Y mae dros dri ugain i gyd wedi aros a daniwyd wedi cludo y tan i lanau eraill. Mae'r hen Lan anwyl yma yn y dyddiau hyn yn llawn o bresenoldeb yr Arglwydd. Cawsom bethau mawr eisoes, ond disgwyliwn, ac mi gredwn fod pethau mwy eto berllaw.

'Y Gwyliedydd' (Rhyl)' 7th January 1905.

http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3191845/ART36

 

 

Y mae y Diwygiad yn ei nerth a'i ddylanwad yn yr ardal hon, ac y mae wedi cryfhau yn ddirfawr mewn llawer o'r ardaloedd cylchynol yn ystod yr wythnosau diweddaf. Yn ddiau, ni welodd neb erioed yr un need, hwn. Dydd o diolchgarwch am y Diwygiad, Dydd diolchgarwch am gynhauaf yr enaid." Teimlid mai priodol fyddai cael diwrnod cyfan i ddiolch, a threfnid ef cyn dyddiau prysur yr amaethwyr. Cynhaliwyd cyfarfod y bore yn nghapel Tabernacl (A), a'r prydnawn yn nghapel Bethesda (M.C.). Caed cyfarfod rhagorol y bore, ond am y prydnawn, yr oedd y dylanwad ar brydiau yn ofnadwy. Gorymdeithiwyd drwy yr heolydd rhwng cyfarfod y prydnawn a'r nos, a chaed yr orymdaith fwyaf yn ddiau fu yn y lie erioed-—ni buasai amcangyfrif o 800 yn bell oddiwrth y marc. Gan nad oedd adeilad ddigon yn y lie i gynwys yr oll, bu raid rhanu y gynulleidfa y nos, a llanwyd capel Tabernacl (A.), ac ystafell capel y Wesleyaid. Caed cyfarfodydd rhagorol yn y naill Ie a'r llall, ond fel y gallesid tybio, collwyd cryn lawer o frwdfrydedd ac effeithiolrwydd drwy orfod rhanu. Bwriedir cario ymlaen y cyfarfodydd gweddiau eto yr wythnosau dyfodol. Ceir yma rai o'r troedigaethau hynotaf, a rhai o'r gweddiwyr rhyfeddaf yn Nghymru. Yn nghyfarfodydd dydd Gwener gwelid pobl o'r holl ardaloedd o gylch pum' milldir ac ychwaneg wedi dod i gyd. i ddiolch, a deallwn y bydd y cyfarfodydd diolch hyn yn cael eu cynal eto mewn amryw leoedd. 'Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen.'

Goleuad - 10th March 1905.

http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3224588/ART23


Related Wells