Lady Llanover's Calvinistic Methodist Chapel - Rhyd-y-Meirch (1905)

Additional Information

GAN Y PARCH. W. JONES, MOZERAH. Bu Mr. Sidney Evans a Mr. Sam Jenkins yn cynal cyfres o gyfarfodydd diwygiadol yn y lleoedd uchod. Y mae yn Llanover ddynion naturiol wresog—dynion ag oedd yn dyheu er's llawer blwyddyn am adfywiad crefyddol yn y wlad—fel pan ddaeth y Diwygiad yr oeddent yn barod am dano. Aeth amryw o honynt ymhell er cael eu meddianu ganddo; meddianwyd hwy yn hollol, ac wedi iddynt ddychwelyd adref, meddianwyd yr holl eglwys, a byth oddiar hyny y maent wedi bod yn llawn brwdfrydedd a gweithgarwch crefyddol. Dechreuodd yr un gwres, ysbrydol yn Mozerah yn gynar yn y gauaf. Teg yw dweyd fod yma ysbryd byw ,grymus, yn gweithio yn yr eglwys hon er tua dechreu Tachwedd, ac hyd yn awr y mae y gwres a'r brwdfrydedd distaw tawel wedi bod yn graddol gynyddu. Yr oedd ymweliad y ddau ddiwygiwr ieuainc gan hyny a'r eglwysi hyn yn amserol iawn, a phrofodd o gymhorth a bendith anmhrisiadwy iddynt. Cyrhaeddodd y brwdfrydedd ysbrydol yn uchel iawn ar rai adegau. Yr oedd Ysbryd Duw yn ddiameu yn gweithio yn rymus yn nghalonau Ei bobl, a nerthoedd y byd a ddawi bob ymddangosiad—yn eu gorchfygu yn lan. Heblaw hyn, y mae crefydd ein Harglwydd Iesu Grist bellach wedi ei chodi i sylw y mwyaf difeddwl a difater yn y wlad. Fe erys yr argraff yn hir; a'n gweddi yw am iddi gael ei dyfnhau. Heb os, yr oedd Ysbryd Duw yn cyniwair drwy y lle; ac er nad oedd yma nac annhrefn na gwylltineb, eto wylai dynion cryfion fel plant, ocheneidiai ugeiniau o honynt yn ddistaw ar eu gliniau wrth y s iti wrth Orsedd gras, rhai am faddeuant, eraill am achubiaeth eneidiau eu cymydogion a'r wlad, &c. Yr oedd yr un peth mawr angenrheidiol wedi dod yn amlwg: iawn, sef bod yr awenau yn llaw Ysbryd Duw. Yr oedd yma le rhyfedd. Y mae hyn yn wir i fesur mwy neu lai am holl gyfarfodydd y gyfres yn y ddwy eglwys hon. Yr oedd y diwygwyr yn eu hwyliau goreu. Siaradai Mr. S. Evans gyda gwen ddengar ar ei holl wedd; ond yr oedd ton ei lais, osgo ei gorff, trem ei lygad, a thafliad ei law yn dweyd yn glir daerineb ei enaid a'i fod yn llosgi am achub eneidiau. Y mae yr un peth yn wir am Mr. S. Jenkins. Dadganai drefn Duw i gadw gyda'r fath swyn, dawnsiai llawenydd ar ei wefus a llonder byw ar ei rudd, nes cynesu pob calon a'i clywai. Bendith y nefoedd arnynt—Gweision y Duw Goruchaf. Dywedodd amryw yn ystod y cyfarfodydd eu bod am dderbyn y Gwaredwr a'i ganlyn o hyn allan. Nis gallaf gofnodi gweddiau, &c., y bobl, nid am fy mod wedi anghofio eu hysbryd taer a'u dywediadau tarawiadol; na, y maent yn fyw yn fy meddwl y funud hon. Nis anghofiaf rai o honynt byth, ond am fy mod yn credu y byddai hyny yn feiddgarwch nad wyf am fod yn euog o hono, Yr ydym yn gweddio am i'r diwygiad barhau.

http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3224693/ART35

Goleuad - 28th April 1905.

Related Wells