Saron Calvinistic Methodist Chapel - Pontdolgoch (1905)




Additional Information

Tra yn clywed swn gwlaw cariad yr Anfeidrol yn disgyn yn drwm ar Ddcheudir Cymru, dywedai llawer enaid yn yr ardal hon—' Deued hefyd arnaf fi.' Erbyn hyn gallwn fynegu na ddiystyrwyd ein dymuniad. Nid oedd dim dieithr wedi ei brofi yma cyn diwedd y flwyddyn o'r blaen. Ond credwn fod agwedd meddwl amryw o honom wrth ymadael a'r hen flwyddyn yn dra gwahanol i'r hyn ydoedd ar adegau felly yn y gorphenol. Edrychid ymlaen at yr wythnos weddiau a disgwylid am bethau mawrion. Daeth blwyddyn newydd i mewn ac wele ninau yn neillduo wythnos i alw ar ein Duw, Cynhelid y cyfarfodydd yn undebol - ni a'r Wesleyaid ac yn undebol y maent wedi para trwy y misoedd. Brawddeg amlwg yn ngweddiau rhai o'r brodyr oedd hon - 'Gad i hi dy deimlo yn symud o galon 'i galon.' Ni ddaethom yh nepell i'r flwyddyn newydd cyn sylweddoli fod yr Arglwydd yn gwrando y deisyfiad, Teimlwyd Ysbryd Duw yn ein plith y naill gyfarfod ar ol y Hall. Mae y bythefnos cyntaf o'r flwyddyn yn aros yn ein cof fel darn hynod yn mysg dyddiau ein bywyd. Ni chlywsom y fath weddio erioed. Wedi dechreu, teflid y cyfarfod yn agored i bawb gymeryd rhan fel y cymhellid hwy gan yr Ysbryd, ac a'i pob peth ymlaen wrth ei bwysau. Nid oedd croesaw i neb siarad ar ganol y gwasanaeth oddieithr fod gair yn berwi yn enaid rhywun ac nas gallai ymatal. Ysbryd gweddio a chanu oedd wedi disgyn ar y bobl. Hynodid gweddiau yr wythnos gyntaf gan fesur o danbeidrwydd, gweddiau yr ail wythnos gan ddwysder ac eneiniad. Clywsom am bregethu gydag eneiniad, ond yr wythnos y cyfeiriwyd ati, cawsom yn amryw o'r cyfarfodydd engraifft o'r peth ei hun. Nid syn genym fod duwinyddion yn methu dweyd ond ychydig ar eneiniad. Nid peth i'w ddesgrifio mo hono, ond rhywbeth i'w dderbyn—peth i'w deimlo a'i fwynhau. Mae fel Duw ei hun yn rhy uchel i neb allu rhoddi desgrifiad o hno. Yn lonawr ymwelodd chwaer ieuanc o Lawrglyn a'n cymydogaeth, yr oedd wedi bod am beth amser cyn hyny yn y Deheudir, ac wedi derbyn yn helaeth o ysbryd y diwygiad. Dywedai air yn gynes yn mron ymhob cyfarfod. Credwn iddi fod yn gyfrwng i ddwyn yr Ysbrydol a ninau yn nes at ein gilydd. Yr wyth nosau diweddaf mae ysbryd gweddi wedi ei dywallt yn helaeth ar drigolion Bwlchygareg, ardal lle y preswylia amryw o'n haelodau. Yn y fangre hon mae ysgoldy henafol. Honir hawl ynddo gan yr Eglwys Sefydledig, ond caniateir i Ymneillduwyr wneyd dim o hono i gynal Ysgol Sul a chwrdd gweddi. Cafwyd rhai cyfarfodydd yn yr adeilad hwn yn ystod y gauaf, ond maent yn amlach yn awr ac yn fwy grymus. Un noson gweddiai brawd a brofodd bethau mawrion yn '59. Dilynwyd ef gan eraill yn yr oedfa, ac y maent erbyn hyn wedi cael llawer cyfarfod cyffelyb. Gallem ychwanegu ffeithiau dyddorol am Fwlchygareg, ond rhaid ymatal; Mae ein pobl ieuainc wedi cael rhai cyfarfodydd eithriadol o dda. Nodwn un fel engraifft. Cafwyd hwn nos Sul, Chwefror 12, ar ol y gwasanaeth. Pan oedd y dyrfa ar fedr myned allan wele ddyn cydmarol ieuanc ar ei draed yn hysbysu fod cyfarfod i'r bobl ieuainc ar ol. Gyda bod y gynulleidfa yn ymwasgaru dyma frawd yn rhoddi penill allan ac yn myned i weddi. Dilynwyd ef gan un arall drachefn. Cymerodd amryw o'r chwiorydd ieuainc ran yn y cyfarfod. Hynodid yr oll o hono gan ddifrifwch a dwysder teimlad. Credwn i ni ddiolch yn gynes i'r Arglwydd am ein bendithio a'r fath gyfarfod ddiwedd y Sabboth. Yr ydym wedi derbyn 23 yn gyflawn aelodau. Oddieithr ychydig o had yr eglwys yr oeddent wedi eu dwyn i mewn trwy ddylanwad y diwygiad. Ymddengys rhai o honynt fel dynion o ddifrif am fyned i mewn i'r bywyd. Gobeithiwn y goreu am yr oll. Nid oes ond ychydig iawn bellach yn dal perthynas a Saron nad ydynt yn aelodau crefyddol. Mae ambell un ar hyd y gymydogaeth yn cadw draw oddiwrth y dylanwadau. Gyda thristwch y meddyliwn am y cyfryw. Ca' y chwiorydd weithiau gyfarfod iddynt eu hunain, a chredwn fod Duw yn tywynu ei wyneb sanctaidd arnynt. Ceir rhai cyfarfodydd mewn tai anedd, ac mae amryw o honynt wedi bod yn dra bendithiol. Mae y diwygiad wedi rhoddi i ni brofiad ar gyfer y seiat, ac wedi cynyrchu torf o weddiwyr newyddion yn ein plith; ac nid bychan ein llawenydd a'n diolchgarwch wrth weled y cynydd a wna amryw o honynt. Mae llu o'n haelodau yn Saron yn ystod y misoedd diweddaf wedi teimlo rhywbeth, rhai wedi teimlo 'y peth,' tra y mae eraill nas medrwn lefaru yn bendant yn eu cylch. Eisiau ychwaneg o'r dylanwadau sydd arnom. 

Goleuad - 28th April 1905.

http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3224692/ART29


Related Wells