Gwynfryn Welsh Calvinistic Methodist Chapel - Pentre Gwynfryn (1905)




Additional Information

ODDIWRTH Y PARCH. T J. JAMES. Feallai nad oes neb yn cofio adeg mwy blodeuog ar grefydd yn y gymydogaeth hon nag a welir ynddi yn awr. Nid oedd crefydd un amser yn isel iawn yma o'n cydmaru ag ardaloedd eraill tebyg, eto i gyd y mae y diwygiad presenol wedi rhoi gwedd newydd ar bob peth. Cyn bod son am ddiwygiad grymus yn unman yn y Gogledd, yr oeddis yn gweled arwyddion amlwg nad oedd raid aros yn hir hebddo. Digon tebyg mai yr un yw profiad pob cymydogaeth gyda golwg ar ddyfodiad yr adfywiad. Nid ar unwaith y daeth atom, and. yr oedd megis yn cerdded yn araf gan barotoi y ffordd, ac yn anfon ei wres fel ernes o'i flaen. Yr oedd mwy yn' dod i'r cyfarfodydd wythnosol, a mwy o barodrwydd i gymeryd rhan ynddynt. Danghosai y bobl ieuainc fwy o awydd i waith crefydd nag a welwyd, ac yr oedd yn haws cael gafael ynddynt. 'Yn fuan dechfeuodd ysbryd gweddi ddisgyn arnom, a bu raid i holl gyfarfodydd arferol yr wythnos roi ffordd i'r cyfarfod gweddi. Yr oedd ein calonau yn llosgi ynom wrth glywed y bobl ieuainc yn dal cymundeb a Duw, ac yn erfyn iddo nerthu rhyw berthynas neu gyfaill neu gymydog iddynt ddod at grefydd. Nis gellir byth draethu ein teimlad wrth weled y rhai hyn yn dod o un i un, ac yn cyflwyno eu hunain yn eu dagrau i'r Gwaredwr ac i'w eglwys. Y mae amryw o benau teuluoedd wedi dod, a'r plant yn tori allan i wylo dagrau llawenydd wrth weled eu tadau yn cofleidio crefydd Mab Duw. Y mae dros 30 wedi dod atom ni o'r newydd yn y ddau Ie, heb son am yr hyn y mae yr enwadau eraill wedi ei dderbyn. Yr oedd lliaws o honynt yn cael eu disgwyl bob wythnos ar hyd y blynyddoedd, ac y mae lle cryf i gredu y byddant, trwy gymorth gras, yn, wir ddfefnyddiol yn ngwinllan eu Harglwydd. Y mae gwaith ardderchog wedi ei wneyd hefyd yn y Canghenau. Os yn bosibl y mae cyfarfodydd y Canghenau wedi bod lawn, mwy o dan y gawod rasol nag unman. O ran hyny y canghenau fydd yn cael fwyaf o'r gwlaw bob amser. Nid a cyfarfodydd gweddio Ty'ndrain a Chwm Nantcol byth yn anghof i'r rhai oedd ynddynt. Nid yw poblogaeth Cwm Nantcol lawer uwchlaw 40ain, ac y mae wyth o'r nifer yna wedi cyflwyno eu hunain i Iesu Grist yr wythnosau hyn.Goleuad - 

Goleuad - 7th April 1905.

http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3224641/ART34

 


Related Wells