Llanbedr (1905)



Perhaps there is nowhere in Meirionnydd so steeped in the powers of the Revival as this area. The above is a small schoolhouse (an old converted dwelling-house, seating 80 or 100), and a branch of the Methodist church at Gwynfryn. A Sunday School and weekly prayer meetings have been held there for years, under the care of the hardworking and dedicated elder, Mr Morris Jones, Uwchlaw'rcoed. It is an agricultural area, and the population is comparatively thinly spread. Some remarkable prayer meetings were held there last November, and the influence of the Revival was felt there quite powerfully early in December. There was some strange and unexplained spiritual influence at every meeting, and those who prayed were all possessed by heaven-born inspiration. At almost every meeting, some gave themselves to Christ and his people, so that there are now only two or three of those attending who are not church members out of the number who attend the place. The children and young people of both sexes take conspicuous and leading roles in the prayer meetings.

Goleuad - 17th February 1905.

http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3224551/ART12

Additional Information

Hwyrach nad oes un llecyn yn Meirionydd wedi ei drwytho gymaint gan nerthoedd y Diwygiad a'r parth hwn. Ysgoldy bychan (hen anedd-dy wedi ei droi felly, yn cynwys lle i 80 neu 100 i eistedd), a changen berthynol i eglwys y Methodistiaid, Gwynfryn, yw yr uchod. Cynnelid yno Ysgol Sul a chwrdd gweddiau wythnosol er's blynyddau, o dan ofal y blaenor llafurus ac ymroddgar Mr. Morris Jones, Uwchlaw'rcoed. Amaethwyr yw trigolion y rhanbarth, a chydmarol deneu yw poblogaeth yr amgyIchoedd. Yr oedd y cyrddau gweddi a gynhelid yno yn ystod Tachwedd diweddaf yn rhai hynod, a theimlwyd dylanwad yr Adfywiad yn lled nerthol yn y lle yn gynar yn Rhagfyr. Ceid rhyw eneiniad rhyfedd ac anesboniadwy ar bob cwrdd, a meddienid y gweddiwyr oll ag ysbrydiaeth nef-anedig. Rhoddai rhywrai eu hunain i Grist a'i bobl bron ymhob cyfarfod, fel nad oes yn awr ond dau neu dri heb fod yn aelodau eglwysig o'r nifer a arferent fynychu y lie. Cymer y plant a'r bobl ieuainc o'r ddau ryw ran flaenllaw ac amlwg yn y cyfarfodydd gweddiau.

Goleuad - 17th February 1905.

http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3224551/ART12


Related Wells