Horeb Wesleyan Methodist Chapel - Brithir (1905)



Additional Information

GelIir dweyd am yr Eglwysi sydd yn y Daith hon, sef, Pentrefelin, Cymdu, a'r Brithdir, eu bod wedi teimlo a phrofi pethau mawr er mis Rhagfyr diweddaf. Mae 'Ysbryd byw deffroadau' wedi gwneud cyfnewidiadau mor amlwg fel nas gellir ei wadu. Yr oedd yma lawer o weddio am adfywiad, ond wrth ddarllen am dano yn y Deheudir, daeth mwy o syched fyth arnom am ei gael, a'i deimlo. Yr oedd y gweddiau yn fwy taer, a phrif bwnc y seiat oedd y Diwygiad. Ond erbyn hyn, gallwn ddweyd yr Arglwydd a'n gwrandawodd ac a'n bendithiodd.  Pentrefelin —Llawer o gymhell fu ar y bobl ieuainc i gymeryd rhan yn y moddion cyhoeddus ond erbyn hyn mae bron yr oll o honynt wedi deffro i'w dyledswydd. Daeth o 12 i 15 yn weddiwyr megis mewn un noswaith, ac maent yn dal ati; a thystiolaethant eu bod yn cael blas mawr ar bethau crefydd. Dal i godi mae y gwres yma fel mae y tymheredd yn uchel iawn mewn ambell i gyfarfod. Cynhelir cyfarfodydd bron bob nos er Mis Rhagfyr. Mae gan y chwiorydd hefyd gyfarfod gweddi bob prydnawn dydd Iau, ac mae arddeliad amlwg ar y moddion mae dwysder a theimlad neillduol ynddynt. Am 5 o'r gloch bob prydnawn Sabbeth, mae gan y plant eu cyfarfod gweddi, gofalant ddyfod iddo yn brydlon, a gweddiant gan blygu eu gliniau bychain gyda gwres neillduol, "O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant." Gweddiwn lawer dros y plant, mae dylanwad aml i blentyn wedi bod yn foddion i ddwyn llawer i dad digon anystyriol yn y Diwygiad yma at draed yr lesu. Un o'r rhai bychain yma yn gweddio un tro, "Arglwydd achub fy Nhad." Ni welwyd y Tad yn y capel er's blynyddoedd, ond erbyn hyn mae ymhlith y dychweledigion yr eglwys hon sydd yn gwneud y neifer yn 14eg. 

Cymdu.—Cynhelir yno gyfarfodydd undebol yn nghapel (M.C.) a'r (W) yn gyson bob nos ag eithrio ychydig o nosweithiau. Mae y gwaith a wneir yma gan yr Ysbryd yn beth nas medr neb dynol ei ddesgrifio. Yn nghapel (M.C.) mae 15eg o ddychweledigion fel nad oes ond un neu ddau heb ddychwelyd. Mae'r oll o'r aelodau, yn henafgwyr, canol oed, yr ieuainc o dan ddylanwad y Diwygiad, a'r dychweledigion newydd wedi tori allan yn weddiwyr cyhoeddus, ac yn llawn o zel, a chariad at ei achos, a llawer o'r aelodau oedd megis yn cysgu o'r blaen, wedi eu deffro. Meddai un wrth weddio "Arglwydd yr ydym wedi cysgu ddigon hir, gad i ni gael gwneud rywbeth drosot bellach." Gweddiant am faddeuant, ac am nerth i fyw yn well, ac i Dduw achub eu perthynasau, a'u hen gyfoedion, rhai fuont yn cyd-bechu a hwy. Onid yw hyn yn brawf fod y Diwygiad o Dduw, egwyddor fawr Cristionogaeth yw—byw i arall. Meddai un brawd, a'r dagrau yn rhedeg lawr ei ruddiau—"Yr wyf wedi gwario llawer o arian ac amser i geisio pleser, a methu; ond diolch, yr wyf wedi ei gael yn Nghrist, yn rhad, ac am ddim." Un arall a ddywed, "Yr oeddwn yn methu deall sut oedd gan y bobl yma brofiad, ond erbyn hyn wyf wedi cael esboniad, mai cadw yn agos at Dduw yw y modd i'w gael;" A eraill ar eu gliniau i weddio i ddweyd eu profiad. Mae'n ardderchog yn y seiadau yn awr. Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, ac am hyny yr ydym yn llawen." Mae nifer y dychweledigion yn y Daith hon yn 38. Bendith anmhrisiadwy i'r eglwysi hyn yw y Diwygiad presenol, fel y gallant edrych ymlaen yn hyderus at y dyfodol.

Goleuad - 28th April 1905.

http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3224693/ART34


Related Wells