Ceunant Calvinistic Methodist Chapel (1905)



Additional Information

Yr ydym wedi cael cyfarfodydd gweddiau a phregethau neillduol o dda er's rhai missoed bellach. Yr oedd pethau wedi newid eu gwedd yma rai wythnosau cyn terfynu o'r flwyddyn o'r blaen ond y ddwy wythnos gyntaf o'r flwyddyn hon oedd yr wythnosau mawr i ni, yn neillduol felly y gyntaf cyfarfodydd a hir gofir. Clywodd yma saith o newydd yr lesu yn eu gwahodd i ddod a golchi eu beiau i gyd yn afon Calfaria, sef dwy chwaer a phump o frodyr. O, mor dda oedd genym eu gweled yn ymdaflu ar drugaredd Duw yn edifeiriol iawn,  dan waeddi, 'Pechais,' a'r eglwys yn gweddio ac yn canu mewn dagrau o lawenydd, 'Diolch Iddo.' Dyma amser braf, ie, dyddiau hyfryd. O, am gael pabellu ynddynt; ac yr ydym yn ymdrechu ein goreu i wneyd hyny, trwy barhau i weddio am i Dduw barhau i'n cofio ac anfon ei Ysbryd i'n plith i ddwyn i mewn weddill ei etifeddiaeth. Calondid mawr ydyw clywed tystiolaeth dda y dychweledigion am eu lle a'u Meistr newydd. A'n gweddi ni a hwythau ydyw am i Dduw eu dal hyd y diwedd, a'u dal yn gryf, yn wrol, ac yn gadarn. Hefyd y mae lliaws mawr o aelodau yr eglwys wylo dagrau edifeirwch wrth yr orsedd am eu dwfn ddifaterwch a'u cyndynrwydd i ymdrechu byw bywyd teilwng o broffeswyr Crist. Eto, fel ymhob ardal, y mae yma hen a methedig ieuainc hefyd yn wael, ac yn methu dilyn y gwersyll ac fe benderfynwyd myned at y cyfryw i'w tai i gynal cyrddau gweddi, ac felly y bu. Yn gyntaf oll awd i dy o'r enw Gelliod, ar nawn Sul , at Mary Parry, yr oedd yr hen chwaer hon wedi hiraethol llawer am gael profi y pethau hyny ag y mae plant Duw yn morio ynddynt yn awr. Sabbath dilynol i hyny fe benderfynwyd rhoddi i fyny yr ysgol am y prydnawn a rhanu y gynulleidfa yn dair rhan. Un rhan i Tanygraig at Lizzie Hughes, yr hon sydd wedi ei chystuddio er's misoedd bellach er yn ieuanc. Deallaf i'r brodyr yno dderbyn o wenau y nef, ac yn credu fod Duw yn foddlawn iddynt. A'r rhan arall i Panthafodlas at Persis Mary Roberts, merch ieuanc eto wedi ei chornelu gan waeledd, ac yn hiraethu am gael profi o'r bendithion sydd yn disgyn i ran yr eglwys y dyddiau hyn. Ar rhan arall i'r Hafodlas i dy Jane Jones, i'r lle y daeth dwy chwaer arall, sef Ann Parry ac Ann Jones. Mae y tair chwaer hyn wedi eu lluddias gan waeledd a henaint fel na chawsant fraint er's tro i fwynhau ac ymborthi ar y gwleddoedd yn y cysegr, ond fe gafwyd gwledd ardderchog yma pan awd i gofio angau y Gwaredwr.

Goleuad - 12th May 1905.

http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3224726/ART40


Related Wells